Cafodd cyn filwyr o Gymru ei ladd ar ôl iddo ddringo i mewn i gymysgydd diwydiannol a gafodd ei droi ymlaen gan weithiwr arall.

Roedd Paul Palmer, 44, oedd o Dreffynnon yn wreiddiol, wedi treulio 13 mlynedd yn y fyddin ac wedi gwasanaethau yn Ynys y Falklands a Bosnia.

Cafodd ei ladd wrth iddo geisio glanhau’r cymysgydd yn ffatri cwmni Building Chemical Research Ltd, yn ôl papur newydd y Telegraph.

Cafodd y cwmni ai gyfarwyddwr, Stuart Reich, 62, eu dirwyio £20,000 yn Llys y Goron Bolton am dorri rheolau iechyd a diogelwch yn y ffatri yn Bury, Manceinion Fwyaf.

Clywodd y llys bod dau switsh a ddylai fod wedi atal y peiriant rhag troi ymlaen os oedd rhywun ynddo wedi methu a gwneud eu gwaith.

Mae’n debyg bod Paul Palmer wedi ei ladd gan lafn y cymysgydd ar ôl dioddef o sawl anaf arall.

(Llun: Llys y Goron Bolton)