Mae cwmni o’r Alban sy’n cael ei redeg gan gyn chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi dod o hyd i olew oddi ar arfordir Yr Ynys Las.
Dywedodd Cair Energy, cwmni cyn chwaraewr yr Alban, Syr Bill Gammell – eu bod nhw wedi dod o hyd i nwy a dau fath o olew ym Mae Baffin yr ynys.
Cyhoeddodd y cwmni fis diwethaf eu bod nhw wedi dod o hyd i arwyddion fod yna olew oddi ar arfordir yr ynys.
“Mae presenoldeb olew a nwy yn cadarnhau fod yna sustem petrolewm gweithredol yn y bae ac mae hyn yn arbennig o galonogol ar ddechrau ein hymgyrch archwilio,” meddai Syr Bill Gammell.
Cairn yw’r unig gwmni sydd wedi cael yr hawl i dyllu am olew oddi ar arfordir yr Ynys Las hyn yn hyn.
Mae disgwyl i’r darganfyddiad arwain at ddiddordeb mawr yn yr ardal gan gwmnïau olew. Mae Greenpeace eisoes wedi lleisio pryderon ynglŷn â thyllu yno ar ôl trychineb Gwlff Mecsico.