Mae Nick Clegg wedi galw ar gyflogwyr i beidio a “colli eu pwyll” a dechrau diswyddo staff cyn i’r llywodraeth gyhoeddi’r toriadau gwario fis nesaf.
Mae undebau wedi rhybuddio y gallai hyd at 1.3 miliwn o bobol golli eu swyddi o ganlyniad i’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr ar 20 Hydref.
Ond mynnodd y dirprwy brif weinidog na fyddai’r adolygiad gwario – a fydd yn torri tua 25% ar wariant Whitehall – yn arwain at “argyfwng dros nos”.
Bu’n rhaid iddo amddiffyn cynlluniau’r Llywodraeth i dorri’r diffyg ariannol wrth i ymgyrchwyr yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Manceinion alw arno i sicrhau na fyddai’r toriadau yn cosbi’r tlawd yn annheg.
Dywedodd heddiw bod ofnau pobol ynglŷn â’r toriadau ariannol wedi “mynd yn drech na’r gwirionedd”.
‘Dros nos’
“Am mai dim ond y gair ‘toriadau’ a’r holl ffigyrau dychrynllyd yma mae pobol yn eu clywed, mae pobol yn meddwl ei fod o’n mynd i ddigwydd dros nos a bod y cyfan am gael ei gymryd oddi arnyn nhw,” meddai wrth ITV News.
“Mae’n mynd i fod yn anodd a dydw i ddim yn mynd i wadu hynny, ond fydd hi ddim yn argyfwng dros nos. Fe fyddwn ni’n lleihau’r diffyg ariannol dros gyfnod o bum mlynedd.”
Ychwanegodd y byddai’r llywodraeth yn gwneud “popeth o fewn eu gallu” i osgoi gorfod torri nifer fawr o swyddi.
“Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau gwastraff ond dyw hynny ddim yn golygu torri swyddi yn unig,” meddai.
“Fe fyddai’n well atal pobol rhag cael codiadau cyflog am ychydig flynyddoedd fel nad oes angen torri cymaint o swyddi.
“Ond mae’n anodd iawn i fi, fel y Dirprwy Brif Weinidog, i ddyfalu beth fydd pob cyngor yn y wlad yn ei wneud.
“Yr oll alla’i ei wneud ydi eu hannog nhw i beidio â cholli eu pwyll a meddwl bod yn rhaid iddyn nhw dorri nôl dros nos.”