Mi fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r dyddiad y maen nhw am gynnal y refferendwm ar ddatganoli grymoedd llawn i Fae Caerdydd yn nes ymlaen heddiw.
Daeth y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Carwyn Jones mewn cynhadledd yn y Cynulliad Cenedlaethol bore ‘ma.
Mae cryn ddadlau wedi bod ynglŷn â’r dyddiad rhwng Bae Caerdydd a San Steffan hyd yma.
Roedd Llywodraeth San Steffan wedi awgrymu eu bod am gynnal y refferendwm yma ynghyd â refferendwm ar ddiwygio’r system bleidleisio ar gyfer etholiadau cyffredinol ar yr un diwrnod.
Ond mae gwrthwynebiad cryf i hynny ym Mae Caerdydd yn sgîl ofnau y byddai cynnal refferendwm sy’n effeithio Prydain gyfan yn tanseilio’r refferendwm yng Nghymru.
“Rydych chi’n ymwybodol bod y ddwy blaid wedi cytuno fel rhan o gytundeb Cymru’n Un i gynnal refferendwm ar bwerau pellach, er bod yn well gen i ei alw’n refferendwm ar ddefnyddio’r pwerau sydd gennym ni yn well,” meddai Carwyn Jones.
“Fe alla’i ddweud ein bod ni ar fin rhoi gwybod i Ysgrifennydd Cymru beth yw ein dyddiad dewisol ni ar gyfer y refferendwm ac fe fydd o’n gyhoeddus erbyn diwedd y dydd.”