Mae yna bryder y bydd Gemau’r Gymanwlad yn New Dehli fis nesaf yn cael eu canslo oherwydd stad “ofnadwy” pentref yr athletwyr.

Datgelwyd heddiw bod arweinwyr timau Cymru, Lloegr, yr Alban, Seland Newydd, Awstralia a Canada wedi cwyno am y llety.

Mae yna bryder hefyd ynglŷn ag isadeiledd gweddill y Gemau ar ôl i bont chwalu ger y brif stadiwm gan anafu 25 o bobol.

Dyw’r athletwyr heb gyrraedd y wlad ond mae aelodau o’r timau sydd wedi cyrraedd o flaen llaw wedi dweud bod safon y Pentref Chwarae yn annerbyniol.

Awgrymodd llefarydd ar ran tîm Lloegr nad oedd yr adeiladau wedi eu gorffen a bod “tywydd monsŵn” wedi achosi problemau gyda’r “plymio a’r trydan”.

O ganlyniad i hynny doedd y pentref “ddim yn saff a ddim yn weddus ar gyfer preswyliad dynol”.

Awgrymodd llefarydd ar ran tîm Seland Newydd nad oedd safon yr adeiladau yn ddigon uchel er mwyn i’r athletwyr allu dod draw.

“Fel y mae pethau nawr, dydyn nhw ddim digon da,” meddai Dave Currie. “Y gwirionedd yw na fydd yr athletwyr yn gallu dod os nad yw’r pentref yn barod, a fydd y gemau ddim yn digwydd.

“Mae’n annerbyniol bod trefnwyr y gemau wedi gwneud hyn i’r athletwyr.”

Bydd seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad yn cael ei gynnal ar 3 Hydref ac mae disgwyl i’r athletwyr cyntaf gyrraedd diwedd yr wythnos yma.

Ymateb Cymru

Cadarnhaodd tîm Cymru bore ma bod eu llety nhw yn yr un stad, ond dywedodd llefarydd ar eu rhan, Chris Jenkins, ei fod o’n weddol hapus o weld bod rywfaint o “gynnydd” wedi ei wneud.

“Ers i’n criw cyntaf gyrraedd ar 14 Medi rydan ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Phwyllgor Trefnu Delhi er mwyn datrys y materion ddaeth i’r amlwg wrth i ni arolygu ein llety,” meddai.

“Er bod yna gynnydd mawr wedi bod yn barod, mae yna dal nifer o faterion o bwys sydd angen mynd i’r afael â nhw.”

Ond rhybuddiodd Chris Jenkins na fyddai timau sy’n cyrraedd yn hwyrach yn cael yr un cyfle i roi trefn ar bethau.

“R’yn ni mewn sefyllfa dda am ein bod ni wedi cyrraedd yn gynnar. Felly roedd cyfle gyda ni gyfle i wella safon ein llety.

“Ein pryder ni ydi beth fydd yn digwydd i’r gwledydd sydd heb gyrraedd eto. Bydd eu hathletwyr nhw yn wynebu pentref sydd ddim ar ei orau.

“Mae Cymru a’r gwledydd eraill sydd yma yn barod yn galw ar Bwyllgor Trefnu Delhi a Llywodraeth India i fynd ati i ddatrys y problemau yma.”

Ychwanegodd ei fod o’n credu y bydden nhw’n barod i dderbyn yr athletwyr cyntaf o Gymru erbyn 25 Medi.