Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi cael ei feirniadu yn dilyn ei araith fawr yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol ddoe, gan un o’i Aelodau Seneddol ei hun.

Dywedodd Mike Hancock ei fod wedi’i “siomi’n fawr” na wnaeth arweinydd ei blaid “sicrhau” y bydd y tlawd yn cael eu hamddiffyn wrth i Lywodraeth glymblaid San Steffan gyflwyno toriadau mawr mewn gwariant cyhoeddus.

Awgrymodd AS Portsmouth ar raglen The World Tonight Radio 4 y byddai ansicrwydd ynglŷn â’r toriadau yn atal pobol sydd ar fudd-daliadau rhag mynd i chwilio am waith.

“Dydw i ddim yn cwrdd â phobol sydd ddim eisiau gweithio,” meddai, “rydw i’n cwrdd pobol sydd wir eisiau dychwelyd i’r gwaith ac mae’r bobol yna angen ychydig o sicrwydd nad ydyn nhw’n mynd i gael eu targedu yn annheg.”

Rhybuddiodd na ddylai’r Democratiaid Rhyddfrydol anghofio eu hymroddiad i’r wladwriaeth les. Roedd Nick Clegg wedi methu cyfle meddai, i leddfu ofnau pleidleiswyr.

Roedd hi’n ddiwrnod anodd i Nick Clegg wrth i aelodau’r blaid bleidleisio i wrthwynebu cynlluniau’r Torïaid i gyflwyno ysgolion yn Lloegr a fydd yn cael eu rheoli’n ariannol gan rieni ac nid awdurdodau lleol.

Yr araith

Yn ei araith, fe blediodd Nick Clegg ar aelodau’r blaid i roi cyfle i’r Glymblaid, wrth iddo amddiffyn ei benderfyniad i ymuno â Thorïaid David Cameron mewn llywodraeth.

Dywedodd na fyddai’r pleidleiswyr wedi cymryd y blaid o ddifri eto pe baen nhw wedi troi cefn ar y cyfle i lywodraethu mewn amser o argyfwng.

Mynnodd bod “enaid” y Democratiaid Rhyddfrydol yn fyw ac yn iach o fewn y glymblaid, a bod refferendwm ar sustem bleidleisio newydd o fewn eu cyrraedd.

Ond cyfaddefodd y byddai rhai penderfyniadau yn “ddadleuol” wrth i arbedion daro’r wladwriaeth les, a allai effeithio ar daliadau megis budd-dal plant.

Penderfynodd beidio a son am arfau niwclear – mae’r Prif Weinidog David Cameron eisoes wedi ymroi i adnewyddu arfau Trident, er gwaethaf gwrthwynebiad gan y Democratiaid Rhyddfrydol.