Mae gwraig milwr o Gasnewydd fu farw yn Afghanistan wedi dweud heddiw y byddai ei farwolaeth yn gadael “twll anferth” ym mywyd y teulu.
Fe fu farw’r Rhingyll Andrew Jones, 35 oed, ynghyd âg Andrew Howarth, 20 oed, pan ffrwydrodd bom gwrthryfelwyr o dan eu cerbyd arfog yn ardal Lashkar Gah rhanbarth Helmand dydd Sadwrn.
Mae Andrew Jones yn gadael ei wraig, Joanne, a’u plant Natasha, Caitlin a Liam.
“Roedd Andrew yn ddyn hapus, doniol a gofalgar. Roedd o’n ŵr, tad a mab cariadus, ac fe fydd ei golli o’n gadael twll anferth yn ein bywydau.”
Dywedodd y fyddin ei fod o’n Gymro gwladgarol oedd wrth ei fodd gyda rygbi.
“Roedd ei ddewrder a’i arweinyddiaeth yn ysbrydoli ei filwyr i gyd, yn enwedig pan oedd pethau’n anodd,” meddai’r Is-gapten Martin Todd.
“Roedd o’n Gymro balch, ac yn meddu ar holl gryfder ei gydwladwyr, ac roedd o’n ymroddedig i’w deulu.”
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, bod clywed am farwolaeth Andrew Jones wedi ei ddigaloni.
“Ni fydd ei aberth, wrth amddiffyn ein cenedl, yn cael ei anghofio. Hoffwn gydymdeimlo gyda’i deulu a’r rheini yr oedd o’n ei garu.”
Mae 337 o filwyr Prydeinig wedi marw ers dechrau’r rhyfel yn Afghanistan yn 2001.
Trosglwyddwyd rheolaeth o ardal Sangin rhanbarth Helmand, ble mae bron i draean o’r milwyr rheini wedi marw, i fyddin yr Unol Daleithiau ddoe.