Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu adeiladu ysgol Gymraeg newydd sbon yn ardal Treganna erbyn 2013.

Mae’r penderfyniad yn dilyn ffrae rhwng y cyngor a Llywodraeth y Cynulliad ynglŷn â chynllun i symud Ysgol Treganna, sy’n orlawn, i safle ysgol Saesneg.

Cafodd y cynllun i gau ysgol Saesneg Lansdown a symud yr ysgol Gymraeg i’r safle ei wrthod gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ym mis Mai.

Roedd y penderfyniad wedi cythruddo eu partneriaid yn y glymblaid, Plaid Cymru, yn ogystal â nifer o rieni Ysgol Treganna.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar ddarn o dir sy’n eiddo i’r cyngor ger Ffordd Sanatorium, yn ardal Treganna.

Dywedodd y Cyngor mai adeiladu ysgol newydd £9m ar y safle oedd yr unig opsiwn oedd ar ôl.

“Mae’r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar gynnydd ac mae poblogaeth y rhan yna o’r ddinas wedi bod yn tyfu,” meddai’r aelod dros addysg ar gyngor Caerdydd, Freda Salway.

Fe fydd Ysgol Tan yr Eos yn cyfuno gydag Ysgol Treganna ar y safle newydd, ac ysgol gynradd Radnor yn cymryd lle Ysgol Treganna.

Amcangyfrifir y bydd y project yn costio tua £9m ac y bydd Cyngor Caerdydd yn ddibynnol ar gyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i adeiladu’r ysgol.

“Mae hon yn flaenoriaeth bennaf i ni. Mae buddiannau’r plant yn hollbwysig yn hyn i gyd ac rydw i wedi bod yn cydymdeimlo â rhieni Treganna sydd wedi wynebu cymaint o ansicrwydd cyhyd,” meddai Arweinydd y Cyngor Rodney Berman.

“Rhaid i ni nawr ddibynnu ar eu hamynedd am ychydig yn hirach wrth i ni fynd drwy’r broses o weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r gymuned. Rwy’n gobeithio y gallwn ni ddarbwyllo Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru i neilltuo’r arian y byddwn ei angen i wireddu’r cynnig hwn.

“Dylai rhai materion fod yn drech na gwleidyddiaeth ac mae ad-drefnu ysgolion heb os nac oni bai yn un o’r rheiny. Nawr mae’n rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd i roi’r ddarpariaeth addysg orau posibl i blant Treganna.”