Mae car prin a fu unwaith yn eiddo i awdur James Bond, Ian Fleming, wedi ei werthu mewn ocsiwn am £80,000.
Dim ond chwech o’r AC Aceca Coupe 1962 sydd yna trwy’r byd, ac fe gafodd ei werthu gan gwmni Bonhams yn Chichester ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.
Mae’r cerbyd, sydd â digon o le i ddau, wedi ei baentio’n las tywyll gyda seddi a thu mewn coch.
Mae cofnodion yn profi iddo adael ffatri Thames Ditton yn Surrey ym mis Awst 1962 a chael ei ddanfon i gartre’r awdur yn yr un flwyddyn ag y gorffennodd e’r nofel The Spy Who Loved Me.