Mae dros 600 o eitemau hynafol a gafodd eu smyglo allan o Irac, yna eu canfod a’u colli eto, wedi cael eu darganfod yn saff – yng nghanol offer cegin sy’n cael eu cadw yn swyddfa Prif Weinidog y wlad.

Fe gafodd y 638 eitem, sy’n cynnwys gemwaith, ffigurau efydd a phethau sy’n deillio o rai o gwareiddiadau hyna’r byd, eu dwyn yn ystod yr anhrefn yn dilyn yr ymosodiad ar Baghdad yn 2003.

Ond, wedi iddyn nhw gael eu canfod, fe gafodd yr eitemau – wedi eu pacio mewn bocsys wedi’u selio – eu colli eto,

Am bedair blynedd, mae swyddogion Irac, ynghyd ag arbenigwyr ar greiriau hyna’r byd, wedi bod yn chwilio amdanyn nhw, heb lwc.

Beth a phryd

Mae nifer fawr o eitemau a gafodd eu dwyn yn 2003 wedi ffeindio’u ffordd i bob cwr o’r byd. Roedd casgliadau o Amgueddfa Genedlaethol Irac yn croniclo 7,000 o flynyddoedd o hanes gwareiddiad yn Mesopotamia, gan gynnwys y Babiloniaid, y Sumeriaid a’r Asuriaid.

Dim ond ffracsiwn fach o’r holl eitemau a gafodd eu lladrata, sydd wedi cael eu darganfod.

Hyd yn hyn, mae 5,000 o eitemau a ddiflannodd ers 2003 wedi cael eu darganfod. Mae tua 15,000 o eitemau yn dal i fod ar goll.