Yr wythnos hon, mae myfyrwyr Cymraeg yn cyrraedd Prifysgol Bangor ac yn wynebu’r ffaith nad oes un neuadd breswyl ar eu cyfer.
Mae’r stiwdants a fyddai’n arfer byw yn hen neuadd John Morris-Jones (JMJ) bellach wedi’u symud o un adeilad ar Ffordd y Coleg, i ddau adeilad newydd sbon – o’r enw Bryn Dinas a Tegfan – ar Safle’r Ffriddoedd yn y ddinas.
Ac er bod un arwydd amwys y tu allan i’r ddau adeilad yn nodi mai yno y mae ‘Neuadd John Morris-Jones’, dyw’r ddau floc o fflatiau ddim yn cynnwys ystafell gyffredin na ffreutur. Mae Golwg360 yn deall y bydd yna ryw fath o ystafell gyffredin wrth ymyl neuadd Tegfan.
O dan y drefn newydd, fe fydd dros 200 o fyfyrwyr yn byw mewn fflatiau en-suite lle maen nhw’n paratoi eu bwyd eu hunain.
Hefyd, yn hytrach na choridorau agored, mae’r fflatiau wedi eu cynllunio fesul bloc o naw a does dim modd mynd o un i’r llall oherwydd sustemau diogelwch.
Cyn-warden yn beirniadu
“Fe wnaeth y Brifysgol drin y Cymry fel afterthought,” meddai Rhys Llwyd, a fu’n warden Neuadd JMJ am ddwy flynedd. “Os basa’r Brifysgol wedi trafod gyda Chymry Cymraeg o’r cychwyn cyntaf – bydden nhw wedi gallu cynllunio neuadd bwrpasol.
“Ond dyw hi ddim yn ddelfrydol bod myfyrwyr yn symud i floc fflatiau, ac nid i neuaddau.
“Mae’n symudiad negyddol o ran yr elfen gymdeithasu a’r ethos. Bydd yn colli elfen gymdeithasol neuadd, a bydd e’n fwy tameidiog yn sicr.
“Ond, mae ochr dda hefyd, oherwydd roedd safon yr hen neuadd yn sâl a Chymry’n haeddu byw mewn rhywle â gwell graen.”
Warden yn hapus
Mae Gareth Ceidiog Hughes, un o wardeiniaid presennol Neuadd John Morris-Jones yn “eithaf hapus am y newid” ac yn “edrych ymlaen” at y profiad o fyw yn Ffriddoedd.
“Mi fydd hi’n flwyddyn ddiddorol, oherwydd mae yna lot o Gymry Cymraeg yn Ffriddoedd sydd ddim yn JMJ. Dw i’n gobeithio y byddan ni’n cael budd o’r newid ac y bydd Ffriddoedd yn dod yn ganolbwynt i’r Cymry.
“Wrth gwrs, mae ychydig o bryder ac mae pethau’n eitha’ ansicr ar y funud. Ond, mae o’n gyfle gwych a dw i’n gobeithio y caiff y gorau ei wneud allan ohono….”
Difetha
Ond, yn ôl un cyn lletywr sydd wedi graddio a gadael y Brifysgol cyn y newid mawr eleni – mae ’na “ormod o newidiadau” i’r Brifysgol.
Mae Fiona Eluned Roberts o Forfa Bychan sydd wedi graddio gyda BA mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu eleni, yn credu bod y newid “wedi difetha’r gymuned glos Gymraeg” oedd yn bodoli ym Mangor.
“Dw i’n deall fod y JMJ newydd yn lle moethus i fyw,” meddai, “ond eto, doeddwn i ddim yn gweld be’ oedd o’i le ar gadw’r hen JMJ ar agor i fyfyrwyr Cymraeg.”
Myfyrwyr – dwy farn
“Roedd hi’n drist gweld yr hen adeilad,” meddai Sam Cartwright. “Ar ôl gweld y ddarpariaeth newydd, dw i’n falch fy mod wedi symud gan fod mwy o le, ac mae’n fwy moethus.”
Mae ochr dda a drwg i’r newid safle…
“Mae’r adeilad yn neisiach a mwy o fyfyrwyr yma,” meddai Elidyr Glyn, “ond o ran y fflatiau, mae’n anodd siarad efo pobol gan fod rhai myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn cau drysau eu fflatiau.
“Ond, os ydan ni’n rhoi ymdrech i mewn, fe ddylai bob dim fod yn iawn.”