Llanelli 2 – 1 Y Drenewydd

Daeth Y Drenewydd o fewn dwy funud i gipio gêm gyfartal yn erbyn Llanelli ar Barc Stebonheath ddydd Sul.

Roedd y tîm o’r canolbarth ar y blaen yn fuan yn y gêm wrth i gyn chwaraewr Y Seintiau Newydd, Craig Whitfield, sgorio o gic o’r smotyn wedi deg munud o’r gêm.

Dyfarnwyd bod ymosodwr Llanelli, Rhys Griffiths wedi troseddu Shane Sutton yn y cwrt cosbi ac fe rwydodd Whitfield yn rhwydd o’r gic a ddilynodd.

Dyma’r ail gêm yn olynol i Whitfield sgorio ynddi yn dilyn gôl funud olaf i unioni’r sgôr yn erbyn Y Bala wythnos yn ôl. Yn anffodus i’r ymwelwyr nid oedd ei gôl yn ddigon i sicrhau pwynt iddyn nhw’r tro hwn.

Llanelli’n gwella wedi’r hanner

Mae’n deg dweud bod Y Drenewydd wedi rheoli’r gêm yn yr hanner cyntaf, ond prin oedd y cyfleoedd gwirioneddol iddyn nhw ychwanegu i’r sgôr.

Roedd Llanelli’n llawer gwell wedi’r egwyl ac fe ddaeth Chris Llywelyn yn agos gydag ergyd o ymyl y cwrt cyn i olwr yr ymwelwyr, David Roberts arbed yn wych o ymdrech Chris Venables.

Cic gosb o ymyl y cwrt arweiniodd at unioni’r sgôr wedi 71 o funudau. Roedd yr ymdrech gyntaf yn ddigon tila, ond penderfynodd y dyfarnwr bod rhaid cymryd y gic eto, a’r tro hwn taranodd y Cymro Cymraeg o Ddyffryn Teifi, Wyn Thomas ei ergyd heibio i Roberts yn y gôl.

Cododd y gôl hyder y tîm cartref a cafwyd rhybudd wrth o Rhys Griffiths daro’r postyn gydag ergyd o gic rydd Andy Legg, cyn iddo gipio’r fuddugoliaeth ddwy funud cyn y diwedd. Daeth croesiad da gan yr asgellwr Owain Warlow i Legg ar y postyn pellaf ac fe beniodd yn ôl ar draws y gôl i Griffiths ergydio y tu hwnt i’r golwr.

Daeth cyfleoedd i’r ddau dîm yn y munudau olaf, ond 2-1 oedd y sgôr terfynol.

Roedd rheolwr Y Drenewydd, Andy Cale, wedi awgrymu ymlaen llaw ei fod yn teimlo bod cyfle i’w dîm gipio o leiaf pwynt yn Llanelli, ond nid oedd yn rhy siomedig wrth siarad â gwefan y clwb ar ôl y gêm. “Roedd yn berfformiad gwych” meddai, “y gorau i ni hyd yn hyn eleni heb os. Wrth gwrs ei bod ni’n siomedig i golli ond os allwn ni berfformio fel yna bob wythnos yna byddwn ni’n gwneud yn iawn eleni.”

Llun: Craig Whitfield, sgoriwr gôl Y Drenewydd (Llun o wefan y clwb)