Mae plaid adain dde eithafol wedi achosi ansicrwydd gwleidyddol yn Sweden yn dilyn etholiad cyffredinol y wlad.
Llwyddodd Democratiaid Sweden i ennill eu seddi cyntaf erioed dros y penwythnos, ond mae’r prif bleidiau wedi dweud eu bod yn gwrthod gweithio gyda nhw, er nad oes gan unrhyw un mwyafrif digonol i greu llywodraeth sefydlog.
Gallai hyn olygu y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog Fredrik Reinfeldt, greu llywodraeth leiafrifol o’i glymblaid geidwadol.
Roedd ei glymblaid dair sedd yn brin o fwyafrif ar ôl ennill 172 ohonyn nhw. Cafodd eu prif wrthwynebwyr, y Democratiaid Cymdeithasol, 157; tra cafodd Democratiaid Sweden, 20.
Mae Fredrik Reinfeldt wedi dweud y bydd yn ceisio dod i gytundeb â’r Blaid Werdd er mwyn peidio gorfod dibynnu ar bleidleisiau Democratiaid Sweden.
Mae Democratiaid Sweden am weld toriadau fewnfudo llym, ac maen nhw wedi dweud mai Islam yw’r bygythiad tramor mwyaf difrifol ers yr Ail Ryfel Byd.
Arweiniad
Mae arweinydd y Democratiaid Cymdeithasol, Mona Sahlin, wedi dweud bod yr etholiad yn un “heb enillwyr”.
“Mae fyny i Fredrik Reinfeldt nawr,” meddai, “i ddangos sut mae’n cynllunio i arwain Sweden heb roi dylanwad i Ddemocratiaid Sweden”.
Mae disgwyl canlyniadau terfynol yr etholiad i gael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr wythnos.