Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fodlon cydweithio â phleidiau eraill yng Nghymru wedi mis Mai y flwyddyn nesa’ – pe na bai’r un blaid yn llwyddo i ennill mwyafrif clir yn etholiadau’r Cynulliad.

Dyna oedd un o negeseuon Kirsty Williams, arweinydd y blaid yng Nghymru, yn y gynhadledd Brydeinig yn Lerpwl heddiw.

Ond, fe gadarnhaodd hefyd na fyddai trafodaethau yn digwydd cyn yr etholiad, ac y byddai’r blaid Gymreig yn ymladd ar sail ei pholisïau ei hun, gyda’r nod o fod yn brif blaid.

Fe ymosododd hefyd ar record y llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru ym Mae Caerdydd, gan gyhuddo’r ddwy blaid o fethu â delifro ar faterion pwysig yn ymwneud â Chymru.

Llais cryf

“Rhoi llais cryf ac annibynnol i Gymru, a llais y gall pobol Cymru ymddiried ynddo, ydi’n bwriad ni,” meddai Kirsty Williams.

“Os ga’ i fy ffordd, fe fyddwn ni yn llywodraethu yng Nghymru yn ogystal ag yn San Steffan.

“Mae pobol yn gofyn i mi, be’ fyddai’n digwydd pe baen ni’n llywodraethu yng Nghymru… nid mewn pwer y mae eu diddordeb nhw, ond yn yr hyn a fyddai’n gwneud gwahaniaeth.

“Fel Democratiaid Rhyddfrydol, ryden ni wedi bod mewn llywodraeth gyda Llafur yng Nghymru a gyda’r Torïaid yn yr Alban.

“Ryden ni’n dal i fod yn barod i roi gwahaniaethau o’r neilltu er mwyn cydweithio ag eraill a chreu llywodraeth gytbwys.”