Pan fu farw Orig Williams – El Bandito – flwyddyn yn ôl, roedd wrthi’n gweithio ar ei hunangofiant Saesneg. Ddydd Sadwrn, fe fydd Orig Williams – An Autobiography yn cael ei lawnsio yn neuadd Y Rhyl.
Mewn cyfrol gwbwl ddi-flewyn ar dafod, mae’n edrych yn ôl ar fywyd eithriadol liwgar a chyffrous – o’i gyfnod yn bêl-droediwr gydag Oldham Athletic, Pwllheli a thîm caled Dyffryn Nantlle, i’w fywyd yn reslar rhyngwladol.
Y cyd-awdur oedd yn cydweithio gydag Orig oedd Martyn Williams, newyddiadurwr a oedd yn gyfaill iddo ac sydd hefyd yn gyd-awdur hunangofiannau Phill Bennett a Paul Thornburn.
“Dymuniad Orig ar ôl cyhoeddi llyfr campus Cario’r Ddraig yn 1985 oedd ysgrifennu’r hanes mewn cyfrol Saesneg,” meddai Martyn Williams.
“Aeth ati i gasglu a nodi straeon, hen a newydd… mae’r gyfrol newydd yn rhoi darlun cywir o’r cymeriadau a’r miri oedd ynghlwm â bywyd Orig Williams.”
Ymladd ym mhob rhan o’r byd
Mae’r gyfrol yn cynnwys straeon am ei brofiad ym Mhacistan yn ymladd rhai o gewri byd wreslo’r Dwyrain Pell gyda thorfeydd o 100,000 yn bloeddio am ei waed.
Bu hefyd yn teithio yn Affrica, lle’r oedd pryfed yn bla, yn ogystal ag mewn stadiwm yn Nhwrci pan losgwyd y stadiwm i’r llawr gan dorf anniddig.
Yn rhan ola’r gyfrol ceir nifer fawr o deyrngedau gan rai o fawrion y byd reslo fel Klondyke Kate, George Burgess, y Jamaica Kid, a hefyd ffrindiau fel Dafydd Hywel a Tarw Nefyn, ei gyd-amddiffynnwr yn nhîm Nantlle Fêl y 1960au.
Reslar arall
Ysgrifennwyd y rhagair gan un arall o fawrion y byd reslo – y Cymro Cymraeg Barri Griffiths, sydd bellach yn reslo yn y WWE yn yr Unol Daleithiau.
“Does dim diwrnod yn pasio pan nad ydw i’n meddwl am Orig – mae arna’ i bopeth iddo fo. Fo drefnodd i mi gael y cyfle i fod yn Goliath ar raglen Gladiators ac i gyrraedd lle ydw i heddiw yn y WWE.
“Roedd reslo’n golygu pob peth iddo fo – dyna oedd ei fywyd – a doedd dim yn bwysicach iddo, heblaw Wendy a Tara. Wnawn ni fyth weld Orig Williams arall.”