Mae Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig Cymru, wedi cyhoeddi strategaeth newydd i fynd i’r afael ag argyfwng TB mewn gwartheg – ddeufis ers i’w chais i ddifa moch daear gael ei wrthod yn y Llys Apêl.

Fe fydd cynllun arall i ddifa moch daear mewn ardaloedd yng ngorllewin Cymru yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae’n rhan o gynllun pum mlynedd sydd wedi’i gyhoeddi heddiw gan Elin Jones.

Ym mis Gorffennaf, dyfarnodd y Llys Apêl fod Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009, a oedd yn berthnasol i Gymru gyfan, yn anghyfreithlon.

Mae’r gorchymyn drafft newydd yn benodol i’r Ardal Triniaeth Ddwys sy’n cynnwys Gogledd Sir Benfro a rhannau o Geredigion a Sir Gaerfyrddin.

Argyfwng

“Dw i’n parhau i fod wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng TB mewn gwartheg yng Nghymru,” meddai Elin Jones heddiw. “Mae’n sefyllfa na alla’ i, ac na wna’ i, adael iddi barhau…

“Mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn cytuno bod moch daear yn ffactor bwysig yn y broses o drosglwyddo TB ac na wnawn ni ddileu’r clefyd heb fynd i’r afael â’r mater mewn bywyd gwyllt a gwartheg fel ei gilydd.”

Mae polisi Llywodraeth y Cynulliad yn becyn sy’n cynnwys goruchwylio a rheoli gwartheg mewn ffordd fwy dwys, yn ogystal â gwell bioddiogelwch ar ffermydd.

“Dw i’n dawel fy meddwl nad oes ffordd arall resymol ymarferol na boddhaol i leihau TB mewn gwartheg mewn Ardal Triniaeth Ddwys ond difa moch daear. Dyma’r unig ddull profedig sydd ar gael i mi ar hyn o bryd,” meddai.

Y ffigyrau

Mae 321 o ffermydd gwartheg yn yr Ardal Triniaeth Ddwys ac mae TB mewn gwartheg wedi effeithio ar bron i 70% ohonyn nhw yn ystod y saith mlynedd diwethaf, meddai Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ar ôl i ddyfarniad y Llys Apêl, cyngor cyfreithiol a thystiolaeth wyddonol a thechnegol gael eu hystyried, bydd y Gweinidog yn ymgynghori ar Orchymyn drafft a fyddai’n caniatáu i Lywodraeth y Cynulliad weithredu strategaeth rheoli moch daear yn y rhannau hyn o’r Gorllewin.

O dan y cynigion, byddai moch daear yn cael eu difa bob blwyddyn am gyfnod o bum mlynedd. “Dw i’n pwyso ar bawb sydd â barn i gymryd rhan yn y broses ymgynghori,” meddai’r Gweinidog.

Eisoes, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r newydd heddiw.

Llun: Gwifren PA