Tywysog Cymru yw llywydd cynta’ gwyl newydd yng Nghymru sy’n canmol a mawrygu defaid.

Ac mae Charles eisoes wedi dangos ei ymlyniad at yr achos trwy wisgo bathodyn Gwyl Defaid Llanymddyfri wrth roi anerchiad yn yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne heddiw.

Mae Tywysog Cymru newydd ddechrau taith o gwmpas gwledydd Prydain er mwyn hyrwyddo byw yn gynaladwy.

Mae gweld prosiectau lleol yn codi ei galon, meddai, gan dynnu sylw at fentrau yn ardal Sir Gaerfyrddin, nepell o’i gartref ym Myddfai.

Gwyl ddefaid

Mae Gwyl Ddefaid Llanymddyfri yn rhan o frand newydd, Caru Llanymddyfri/Love Llandovery. Mae’n rhan o weithgarwch ehangach gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Siambr Fasnach yr ardal.

“Dw i wrth fy modd yn cael cefnogi a hyrwyddo gwyl sy’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol Llanymddyfri ac yn ei rhannu gydag ymwelwyr,” meddai Tywysog Cymru.

“Mae’n bwysig hefyd codi ymwybyddiaeth am ffermio defaid Cymreig a chynnyrch gwlân o Gymru.”

Cynhelir yr wyl y penwythnos nesa’, o ddydd Gwener, Medi 24 tan ddydd Sul, Medi 26.