Mae miloedd o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi wrth i deiffŵn grymus daro ynys Taiwan a de ddwyrain China.
Mae’r storm wedi arwain at lifogydd difrifol yn ne Taiwan, wrth i ddŵr lenwi strydoedd a chodi i lefel llawr cyntaf adeiladau.
Yn ôl adroddiadau, roedd 44 modfedd o law wedi glanio yno ers dechrau Teiffŵn Fanapi, ac mae disgwyl mwy i ddod – mae miloedd o filwyr a gweithwyr argyfwng wrthi’n ceisio cael trefn ar y sefyllfa.
Mae’r adroddiadau hefyd yn dweud fod 10,000 o bobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, neu mewn llefydd a allai fod mewn peryg o gael eu taro gan dirlithriad, wedi cael eu symud i ddiogelwch.
100 wedi’u hanafu
Does dim adroddiadau am farwolaethau, ond mae dros 100 wedi dioddef anafiadau – mae rhai wedi cael eu brifo gan wydr sydd wedi torri ac eraill wedi cwympo oddi ar eu beiciau modur yn sgil y gwynt.
Mae’r system drafnidiaeth wedi cael ei effeithio’n ddifrifol ac mae gwasanaethau hedfan a rheilffordd fewnol y wlad wedi dod i stop am y tro.
Bu tua 700 o bobol farw ar yr ynys yn sgil Teiffŵn Morakot flwyddyn ddiwethaf.
China
Mae’r storm hefyd wedi croesi i dalaith Fujian yn China, lle mae gwyntoedd o 102 milltir yr awr wedi bod, ac mae adroddiadau fod 186,000 o bobol wedi cael eu symud i ddiogelwch yno hyd yn hyn.