Mae awdurdodau yn yr Almaen yn archwilio ar ôl i wraig ddechrau saethu dryll mewn ysbyty yn ne orllewin y wlad, yn dilyn ffrwydrad mewn adeilad cyfagos.
Roedd yr adeilad wedi ffrwydro yn nhref Loerrach ddydd Sul, sy’n agos i’r ffin â’r Swistir a Ffrainc, ac yn ôl honiadau, roedd gwraig wedi rhedeg allan oddi yno gyda dryll.
Mae’n debyg ei bod hi wedi mynd mewn i ysbyty cyfagos St Elisabeth, a dechrau saethu, gan ladd un aelod o staff.
Roedd hi wedyn wedi saethu at yr heddlu wnaeth ymateb i’r digwyddiad, cyn cael ei saethu’n farw ei hun – cafodd heddwas ei anafu’n ddifrifol yn y gwrthdaro yn ogystal.
Cafodd dau o bobol eu darganfod yn farw yn yr adeilad wnaeth ffrwydro, ond does dim eglurhad eto ynglŷn â beth oedd achos y ffrwydrad a’r ymosodiad.