Roedd rhai o famau beichiog Caerdydd yn ddigon parod i ddangos eu boliau er mwyn i artist dynnu lluniau arnyn nhw – a hynny at achos da.

Bwriad yr elusen Oxfam yw tynnu sylw at y 1,000 o ferched sy’n marw bob dydd mewn gwledydd tlawd wrth roi genedigaeth I blant. Diffyg gofal iechyd yn rhoi bywydau mewn peryg.

Fe gafodd darluniau o Affrica eu paentio ar foliau’r marched er mwyn cyd-daro â chynhadledd i drafod y nodau osodwyd yn 2000 gyda’r bwriad o godi 500 miliwn o bobol allan o dlodi.

“Mae merched mewn gwledydd sy’n datblygu, fel arfer, yn geni plant pan maen nhw ar eu pennau eu hunain, lle nad oes fawr ddim gofal meddygol… ac mae pethau’n gallu mynd o’i le,” meddai Chris Jones, Pennaeth Oxfam Cymru.

“Mae’n rhaid i ni ymrwymo i wella iechyd mamau ar draws y byd. Wrth i’r gynhadledd hon agor yn Efrog Newydd yr wythnos hon i drafod sut mae pethau’n mynd ers deng mlynedd y mileniwm newydd, mae Oxfam Cymru yn annog gweddill y byd i anrhydeddu’r addewidion gafodd eu gwneud yn 2000.”