Abertawe 2 Scunthorpe 0
Roedd dwy gôl yn syth ar ôl ei gilydd yn yr ail hanner yn ddigon i roi buddugoliaeth i Abertawe a mynd â nhw i’r chweched safle yn y Bencampwriaeth.
Yn yr hanner cynta, digon symol oedden nhw yn erbyn Scunthorpe ac, am gyfnod yn yr ail, roedd hi’n ymddangos y byddai hen broblem yr Elyrch yn parhau – methu â sgorio.
Yna gyda deng munud yn weddill, fe drawodd Scott Sinclair y bêl i’r rhwyd i ychydig lathenni ar ôl rhediad da gan yr eilydd arall Cotterill ac, o fewn dim, roedd yr eilydd Dobie wedi cael yr ail.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Abertawe bellach o fewn pwynt i Gaerdydd ac yn cadw’u record ardderchog yn Stadiwm Liberty.
Mae hefyd yn dilyn patrwm y tymhorau diwetha’, gyda dechrau simsan ac yna cryfhau.
Llun: Scott Sinclair