Ipswich 2 Caerdydd 0

Mae tymor Caerdydd wedi dirywio’n sydyn gyda’r ail gweir o fewn yr wythnos. Ac mae’n golygu bod Ipswich wedi mynd o flaen Caerdydd i’r ail le yn y Bencampwriaeth.

Fe enillodd Ipswich gyda dwy gôl yn yr ail hanner – un yn gôl i’w rwyd ei hun gan yr amddiffynnwr ifanc, Adam Matthews, a’r ail yn rhediad ac ergyd cry’ gan gyn flaenwr Abertawe Jason Scotland.

Ar ôl rhediad o bedair buddugoliaeth, mae’r Adar Glas bellach wedi colli dwy gêm yn olynol a ddaethon nhw ddim yn agos at ennill.

Roedd hi’n ddi-sgôr ar yr hanner ac fe fu’n rhaid i’r golgeidwad, David Marshall, wneud arbediad gwych i achub Caerdydd yn gynnar yn yr ail hanner.

Ond wedyn fe ddaeth y ddwy gôl, a’r gynta’ gan Matthews yn gamgymeriad gwael. Ac er bod Jason Koumas wedi dod ymlaen, fe fethodd â gwneud gwahaniaeth.

Fe fydd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn gallu sôn am fod heb rai o’i brif chwaraewr, gan gynnwys y capten, Craig Bellamy, a’r blaenwr allweddol arall, Michael Chopra.

Llun: Jason Scotland, sgoriwr yr ail (Llun Abertawe)