Roedd Caerdydd ac Abertawe ill dau’n gyfartal ar hanner amser yn eu gemau yn y Bencampwriaeth.

Ond, o fewn chwarter awr, roedd pethau wedi mynd o chwith i glwb y brifddinas yn Ipswich wrth iddyn nhw fynd i lawr 2-0.

Ychydig funudau ar ôl i David Marshall yn y gôl wneud arbediad gwyrthiol fe beniodd yr eilydd Adam Matthews i’w rwyd ei hun.

Doedd dim pwysau ar yr amddiffynnwr ifanc wrth i Carlos Edwards groesi i Ipswich a doedd dim esboniad am ei gamgymeriad.

Wedi hanner awr, fe ddaeth cyn flaenwr Abertawe, Jason Scotland, drwy amddiffyn Caerdydd am yr ail.

Gobaith i Abertawe

Cryfhau a wnaeth Abertawe ar ddechrau’r ail hanner yn erbyn Scunthorpe ond, unwaith eto, maen nhw wedi stryffaglu i sgorio.

Llun: David Marshall – arbediad gwyrthiol