Fe fu miloedd o bobol ar y strydoedd yn Llundain yn protestio’n erbyn ymweliad y Pab.

Mae’r trefnwyr yn amcangyfri bod bron 10,000 wedi gorymdeithio i Downing Street – llawer mwy nag yr oedden nhw wedi ei ddisgwyl, medden nhw.

Roedd y rhan fwya’n gwrthwynebu bod trethdalwyr yn talu am ran helaeth o’r ymweliad ac yn protestio yn erbyn nifer o bolisïau’r Eglwys Babyddol, gan gynnwys gwrthod atal cenhedlu.

Roedd nifer, gan gynnwys yr ymgyrchydd hawliau sifil Peter Tatchell, yn condemio’r Pab am fethu â gweithredu’n ddigon caled yn erbyn cam-drin plant yn rhywiol.

Doedd Bened XVI ddim wedi rhoi ffeiliau am offeiriadon euog i’r heddlu, meddai, ac roedd hynny’n golygu ei fod yntau’n rhannu’r cyfrifoldeb.

Llun: Peter Tatchell