Mae Wrecsam wedi mynd ar y blaen ar hanner amser yn eu gêm oddi cartre’ yn erbyn Kettering Town.
Fe gafodd Dean Keates gôl ychydig cyn yr hanner i roi gobaith y bydd Dean Saunders yn gwireddu ei ddymuniad o gael chwe phwynt o’r ddwy gêm nesa’ a mynd i chwarter uchaf cynghrair y Blue Square.
Yn y cyfamser, mae’r ddau efaill yn gyfartal yng Nghasnewydd – 0-0 yw hi rhwng Dean Holdsworth, rheolwr y tîm cartre’, a’i frawd David, rheolwr Mansfield.
Yn ôl Idris Charles ar Radio Cymru, mae yna bêl-droed arbennig o dda rhwng y ddau dîm – Mansfield yn bedwerydd yn y tabl a Chasnewydd yn nawfed.
Os bydd y sgoriau’n aros fel y maen nhw, mi fydd Wrecsam yn codi uwchben Casnewydd erbyn diwedd y dydd.
Llun: Dean Saunders