Caerfyrddin 2 Hwlffordd 2

Roedd hi’n ddiweddglo cyffrous yn y gêm ddarbi rhwng Tref Caerfyrddin a Hwlffordd nos Wener, gyda’r ddwy ochr yn sgorio yn y munudau olaf.

Roedd Neil Thomas wedi rhoi Hwlffordd ar y blaen o ddwy gôl i un ar ôl 88 munud o chwarae.

Ond ddwy funud yn ddiweddarach, cafodd eu gobeithion am fuddugoliaeth ei suddo ar ôl i Andy Evans sgorio ei gôl gyntaf i’r tîm cartref.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal ar ddwy gôl yr un, ac mae’r ddau dîm nawr yn rhannu gwaelod y tabl gyda’r Bala a Phrestatyn.

Danny Thomas oedd wedi cael gôl gyntaf Hwlffordd ar ôl 26 munud, gyda Nick Harrhy’n cael y gyntaf i Gaerfyrddin ar ôl 42 munud.

Llun: Logo Tref Caerfyrddin