Daethpwyd o hyd i gorff carcharor yn crogi yn ei gell yn Abertawe ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 22 oed.
Roedd Scott Bevan yn dechrau ar ddedfryd o wyth mis am ymosod – dim ond ychydig ddyddiau yn ôl yr oedd wedi cyrraedd carchar Abertawe.
Yn ôl yr awdruddodau, roedd staff a pharafeddygon wedi ceisio achub bywyd y dyn ifanc ond fe gyhoeddwyd ei fod wedi marw toc wedi wyth y bore yma.
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai y byddai’r Ombwdsman Carchardai yn cynnal ymchwiliad.
Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.
Llun: Abertawe