Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi gofyn am fwy o arian nag erioed o’r blaen i helpu Pacistan ar ôl y llifogydd yno.
Mae’r corff rhyngwladol wedi gofyn i lywodraethau’r byd a grwpiau dyngarol godi cyfanswm o £1.3 biliwn i helpu’r miliynau o bobol sydd wedi colli eu cartrefi.
Mae’r swm yn fwy na’r record cyn hynny – sef yr apêl am £997 miliwn i helpu ar ôl y daeargryn yn Haiti ddechrau’r flwyddyn.
Yn union wedi’r llifogydd, sydd wedi llifo i lawr o’r mynyddoedd gan ddistrywio rhannau helaeth o’r wlad wrth fynd, roedd y Cenhedloedd Unedig wedi gofyn am £325 miliwn.
Mae dau fis bellach ers i’r llifogydd ddechrau ac mae awdurdodau Pacistan wedi rhybuddio y bydd hi’n cymryd blynyddoedd i adfer y wlad.
Llun: Y llifogydd (AP Photo)