Mae gobaith y bydd y mwynwyr sy’n gaeth dan ddaear yn Chile yn dod yn rhydd yn gynt na’r disgwyl.
Fe lwyddodd timau achub i dorri twll arbrofol trwodd i’r ogof lle mae’r 33 gweithiwr, a hynny mewn amser byrrach nag oedd wedi’i ofni.
Fe waeddodd y mwynwyr caeth “Chile am byth!” wrth i’r dril 12 modfedd dorri trwodd – ar ddiwrnod annibyniaeth y wlad.
Y cam nesa’ fydd torri twll gyda dril 28 modfedd – fe fydd hwnnw’n creu twll sy’n ddigon mawr i’r mwynwyr ddringo trwyddo.
Caeth ers mis Awst
Maen nhw wedi bod yn gaeth ym mhwll copr ac aur San Jose ers y tahnchwa ar 5 Awst a’r disgwyl oedd y bydden nhw yno tan ddechrau mis Tachwedd.
Er nad yw wedi rhoi dyddiad newydd, mae Gweinidog Mwyngloddio’r wlad wedi dweud bod y gwaith “ychydig ar y blaen”.
Ar ôl torri’r twll mwy, fe fydd llawes ddur yn cael ei gosod ynddo a chapsiwl yn codi’r mwynwyr yn ôl i’r wyneb.
Llun: Achubwyr adeg y tanchwa ym mis Awst (Desierto Atacama CCA 2.0)