Y Bala 2 Prestatyn 1

Cafodd Tref Bala fuddugoliaeth gynta’r tymor nos Wener ar ôl sgorio ym munudau olaf eu gêm yn erbyn Tref Prestatyn.

Roedd hi’n edrych fel bod y ddau dîm yn mynd i rannu’r pwyntiau ar waelod yr Uwch Gynghrair, ond yn ddwfn yn yr amser ychwanegol, ar ei ben-blwydd yn 22 oed, sgoriodd John Irving i’r tîm cartref.

Y Bala oedd wedi mynd ar y blaen ar ôl i Josh MacAuley grymu’r bêl heibio golwr Tref Prestatyn o ochor y cwrt cosbi wedi hanner awr o chwarae.

Cic o’r smotyn llwyddiannus gan Lee Hunt ddaeth a gôl i’r ymwelwyr ar ôl 70 munud a pharatoi pethau ar gyfer y diwedd dramatig.

Mae’r ddau dîm bellach ar bedwar pwynt yr un ar waelod y tabl ynghyd â Thref Caerfyrddin a Hwlffordd.

Llun: Logo Y Bala