Llwyddodd Airbus UK Broughton i grafu gêm gyfartal o ddwy gôl yr un yn erbyn y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt nos Wener – diolch i benderfyniad dadleuol gan y dyn ar y lein.

Roedd y dyfarnwr wedi galw am y gêm i barhau yn dilyn tacl Craig Jones ar Carl Owen yn y cwrt cosbi ar ôl 88 munud o chwarae.

Ond newidiodd ei feddwl ar ôl i’r llumanwr ddweud ei bod yn drosedd a chafodd yr ymwelwyr gic o’r smotyn.

Fe lwyddodd y capten Mark Allen i sgorio.

Y gêm

Y Seintiau oedd wedi chwarae orau drwy gydol y gêm gyda Matthew Williams yn dechrau’r sgorio iddyn nhw ar ôl 40 munud o chwarae.

Fe lwyddodd Steve Evans i ddod ag Airbus yn gyfartal dair munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Richie Patridge yr ail i’r Seintiau bedair munud i mewn i’r ail hanner, a wnaeth Airbus ddim bygwth llawer ar ôl hynny.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Airbus yn parhau i rannu’r ail safle gyda’r Seintiau yn yr Uwch Gynghrair.

Llun: Logo Airbus UK Broughton