Mae’r paffiwr Cymreig Nathan Cleverly wedi dweud y gallai fod yn herio gwrthwynebwyr o’r Unol Daleithiau o fewn blwyddyn os bydd yn curo’r Almaenwr Karo Murat heno.

Ac fe allai ddod yn bencampwr WBO’r byd os bydd y pencampwr presennol yn cael ei ddiarddel.

Dywedodd wrth Sky Sports HD ei fod yn anelu am y dynion mawr, ac mai Karo Murat sydd yn ei ffordd ar hyn o bryd.

Fe fydd yn gwneud mwy nag ennill yr ornest heno, meddai, gan broffwydo ei fod yn mynd i lorio’i wrthwynebydd.

“Ar ôl hynny rydyn ni’n mynd ymlaen am yr enwau mwy a gwell. Mae’r enwau mawr Americanaidd allan yna. Dwi’n teimlo y bydda i yn y cae yna o fewn y flwyddyn nesaf.”

Gobaith am deitl y WBO

Mae Nathan Cleverly, sy’n 23, a Karo Murat ill dau wedi ennill pob un o’u gornestau proffesiynol, ac mi allai enillydd yr ornest ddod yn bencampwr pwysau trwm ysgafn y WBO.

Mae hynna’n ddibynnol ar benderfyniad ynglŷn â dyfodol y pencampwr presennol, Juergen Braehmer o’r Almaen.

Gallai’r gwregys gael ei gymryd oddi wrtho os na fydd yn llwyddo gyda’i apêl yn erbyn dedfryd o garchar.

Mae’r ornest heno yn un o saith yn Arena’r LG ym Mirmingham. Mae’r lleill yn cynnwys gornest rhwng y Cymro Enzo Maccarinelli a’r Almaenwr Alexander Frenkel.

Llun: Nathan Cleverly adeg y pwyso (Gwifren PA)