Fe ddywedodd y Pab ei fod yn drist am fethu ag ymweld â Chymru yn ystod ei ymweliad â gwledydd Prydain ac fe ddywedodd ychydig eiriau o Gymraeg er mwyn bendithio’r genedl.

Mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Westminster, fe ddywedodd fod ganddo “gariad dwfn” at bobol Cymru cyn tynnu sylw at eiriau Dewi Sant am “wneud y pethau bychain”.

Roedd yn gobeithio, meddai, y byddai’r neges syml ond cyfoethog yn parhau i adleisio yng Nghymru heddiw ac yn dwyn calonnau ei phobol “at gariad newydd at Grist a’i Eglwys”.

Bendithio

Roedd yn siarad ar ôl bendithio mosaic o Ddewi Sant sydd newydd gael ei osod yng Nghadeirlan Westminster ac ar ôl gweddïo o flaen delw o’r Forwyn Fair a oedd wedi ei gludo’n arbennig o Aberteifi.

Roedd Esgob Wrecsam, Edwin Regan, wedi croesawu Bened XVI ar ran pobol Cymru yn ystod gwasanaeth yn Llundain heddiw ond roedd hefyd wedi mynegi siom nad oedd yn dod i’r wlad.

Fe ddywedodd yr Esgob bod pobol Cymru’n edmygu’r hyn yr oedd y Pab yn ei wneud tros gymod yn y byd.

Llun: Y Pab ar risiau Cadeirlan Westminster wedi’r gwasanaeth (Gwifren PA)