Fe gadarnhaodd y Cyngor Criced Rhyngwladol eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau pellach o dwyll yn ymwneud â thîm criced Pacistan.
Maen nhw’n codi allan o’r gêm undydd ryngwladol rhwng Lloegr a Phacistan ddoe, pan enillodd Pacistan o 23 rhediad.
Roedd y Cyngor – yr ICC – wedi cael rhybudd ymlaen llawn gan bapur newydd y Sun ynglŷn â phatrwm sgorio anarferol yn ystod dwy o belawdau’r gêm.
Dweud ymlaen llaw
Yn ôl y Sun heddiw, roedd trefnwyr betio anghyfreithlon yn India wedi darogan ymlaen llaw beth fyddai patrwm y sgorio yn ystod y ddwy belawd ac roedd swyddogion yr ICC wedi gallu gweld hynny’n digwydd.
O dan y pennawd, Bat it again, dyw’r papur ddim yn honni bod canlyniad y gêm wedi’i drefnu, ond mae mwy a mwy o fetio’n digwydd bellach ar fanylion y gêm.
Mae tri o chwaraewyr Pacistan eisoes wedi cael eu hanfon adref o’r daith oherwydd honiadau o dwyllo wrth fowlio.
Llun: Chwaraewyr Pacistan yn dathlu ddoe (Gwifren PA)