Fe fydd plac yn cael ei osod ar gartref olaf nofelydd mwya’ poblogaidd Cymru, a hynny wrth i’r Academi lansio gwefan newydd gyda gwybodaeth am blaciau o’r fath.
Ddydd Sadwrn nesa’, fe fydd aelodau capel Seilo yn Llanbedr Pont Steffan yn dadorchuddio’r plac ar gartref Islwyn Ffowc Elis yn y dref.
Mewn bynglo o’r enw Pengwern ar Rodfa Glynhebog y treuliodd awdur Cysgod y Cryman bron 30 o flynyddoedd hyd ei farwolaeth yn 2004 – roedd wedi byw yno’n hwy nag yn unman arall.
Rheinallt Llwyd, arbenigwr ar waith y nofelydd, fydd yn dadorchuddio’r plac sydd wedi ei greu gan y crefftwr lleol, Dennis Jones. Fe fydd merch Islwyn Ffowc Elis, Sian Solomon, yno hefyd.
Roedd Islwyn Ffowc Elis a’i wraig Eirlys yn aelodau yn Seilo ac, yn ôl un o’r blaenoriaid, Twynog Davies, roedd y gynulleidfa’n teimlo bod angen cofnodi ei gysylltiad â’r dre’.
“Fyddai Islwyn ddim yn hapus ein bod ni’n gwneud hyn, achos roedd e’n ddyn gwylaidd iawn,” meddai. “Ond roedd Seilo’n golygu lot iddo fe ac roedd aelodau Seilo’n meddwl y byd ohono.”
Gwefan newydd
Y plac yn Llanbed fydd y diweddara’ i’w ychwanegu at y wefan sydd wedi ei lansio gan y corff llenyddol, Academi.
Mae ganddyn nhw gofnod o 58 o blaciau i gofio awduron ar hyd a lled Cymru ond maen nhw’n awyddus i glywed am ragor.
Y nod yw annog pobol i ymweld â’r mannau llenyddol pwysig yma a chofnodi hynny trwy sylwadau neu luniau.
Roedd yr awdur a’r bardd, Tony Bianchi, wedi ei gomisiynu i wneud gwaith ymchwil i’r placiau a ffrwyth y gwaith hwnnw sydd ar y wefan newydd.
Mae i’w gweld ar http://www.writersplaques.org/hafan/
Llun: Rhan o’r map yn dangos ble mae’r placiau (Academi)