Mae’r rhan fwya’ o awyrennau Typhoon yr RAF wedi cael eu hatal rhag hedfan oherwydd ofnau am ddiogelwch peilotiaid.
Fe gafodd peilot ei ladd wrth hedfan Typhoon yn awyrlu Sbaen ac mae’r RAF wedi cymryd camre diogelwch rhag ofn.
Roedd y Sbaenwr yn hyfforddi ar y pryd – mae’r Typhoon Eurofighter yn cael ei defnyddio gan nifer o lywodraethau Ewrop.
Dim ond hediadau sy’n rhan o weithgareddau angenrheidiol fydd yn digwydd wrth i beirianwyr archwilio’r 60 Typhoon sydd gan yr awyrlu.
Mae’n debyg bod y pryder ynglŷn â harnes sydd ar seddi dianc yr awyrennau ond mae rhai eisoes wedi cael eu haddasu.
Llun: Peilot mewn yn un o awyrennau Typhoon yr RAF