Mae nifer o bobol wedi eu lladd a degau o orsafoedd pleidleisio wedi aros ar gau wrth i wrthryfelwyr y Taliban geisio amharu ar etholiadau seneddol yn Afghanistan.

Fe fu nifer o ymosodiadau roced ben bore ac wedyn ffrwydradau mwy difrifol wrth i 2,500 o ymgeiswyr gystadlu am 249 sedd.

Dyw’r holl fanylion am faint yr anhrefn ddim yn glir eto ond roedd y Taliban wedi bygwth y bydden nhw’n ymosod ar fythau pleidleisio.

Yn ôl Llywodraeth Afghanistan, mae tua 300,000 o blismyn a milwyr y wlad yn ceisio diogelu’r etholiadau, a’r rheiny’n cael cefnogaeth gan 150,000 o filwyr tramor.

Eisoes fe gafwyd adroddiadau am gardiau pleidleisio ffug ac mae disgwyl llawer o gwynion swyddogol ac achosion llys oherwydd honiadau o dwyllo.

Does dim disgwyl canlyniadau terfynol tan tua diwedd mis Hydref.

Llun: Yr Arlywydd, Hamid Karzai, yn pleidleisio’r bore yma (AP Photo)