Yn ôl y Pab, roedd pawb o fewn yr Eglwys Gatholig wedi diodde’ “cywilydd a gwaradwydd” oherwydd cam-drin plant yn rhywiol gan offeiriaid.
Fe roddodd ei ymddiheuriad cryfa’ eto am y sgandal o fewn yr eglwys wrth annerch gwasanaeth yng Nghadeirlan Westminster yn Llundain.
Roedd yn cydnabod bod rhai pobol wedi “dioddef yn ofnadwy” oherwydd y cam-drin ac fe alwodd ar i’r ffyddloniaid ddangos eu pryder am y dioddefwyr a’u cefnogaeth i’w hoffeiriaid wrth i’r Eglwys wynebu’r broblem.
Ar ei ffordd i wledydd Prydain, roedd y Pab Bened XVI wedi cydnabod nad oedd yr Eglwys wedi delio’n ddigon cyflym nac effeithiol gyda’r cyhuddiadau yn erbyn offeiriaid.
“Yn fwy na dim,” meddai heddiw, “rwy’n mynegi fy nhristwch dwfn i ddioddefwyr diniwed y troseddau dychrynllyd yma, ynghyd â’m gobaith y bydd grym gras Crist, ei aberth er mwyn cymod, yn dod â gwellhad dwfn a heddwch i’w bywydau.”
Roedd Archesgob Caergaint, Rowan Williams, yn y Gadeirlan ar gyfer yr offeren ac i wrando ar yr anerchiad a barodd am 13 munud.
Ynghynt, roedd Bened XVI wedi cael cyfarfod gyda’r Prif Weinidog, David Cameron, ei ddirprwy, Nick Clegg, a Harriet Harman, arweinydd tros dro y Blaid Lafur.
Llun: Y Pab yn aros am y gwleidyddion (Gwifren PA)