Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu penderfyniad llys i garcharu aelodau o gang gyffuriau am gyfanswm o fwy na 28 mlynedd rhyngddyn nhw.
Roedd yr achos yn arwydd nad oedd yr heddlu’n fodlon i “unigolion na gangiau ddod â chyffuriau i mewn i’r ardal”.
Roedden nhw wedi cipio gwerth £130,000, gan gynnwys cocên, canabis ac amffetaminau arbennig o bur.
Maen nhw wedi cael yr hawl hefyd i fynd â thri cherbyd ac adeilad a oedd yn eiddo i’r ‘Outlaws Motor Cycle Club’ o Aberdaugleddau.
Arwydd y ‘clwb’
Dedfrydu wyth
Fe gafodd wyth aelod o’r ‘clwb’ eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddoe ac fe fydd y nawfed yn cael ei ddedfrydu mewn gwrandawiad arall yn nes ymlaen.
Roedden nhw wedi eu cyhuddo o gyfanswm o 29 o gyhuddiadau yn ymwneud â chyflenwi a bod â chyffuriau yn eu meddiant.
Fe fydd yr heddlu hefyd yn gwneud cais am Orchymyn Atal Troseddau Difrifol – mesur newydd a gafodd ei gyflwyno yn 2007 i gyfyngu ar weithredoedd troseddwyr difrifol a’u gorchymyn i ddatgelu gwybodaeth.
Os byddan nhw’n llwyddo, dyma fydd un o’r troeon cynta’ i’r Gorchmynion gael eu defnyddio.
Roedd ymchwiliadau’r heddlu wedi dechrau yn Sir Benfro ond wedyn wedi lledu ar draws de Cymru, gan gynnwys Cwm Tawe ac ardal Aberdâr.
Yr wyth
Dyma enwau’r wyth sydd wedi eu dedfrydu eisoes:
• Michael Barnes (5 mlynedd), Michael Orford (4.5), Christopher Morrissey (1) – i gyd o Sir Benfro. Nhw hefyd sy’n wynebu’r cais am Orchymyn Atal Troseddau Difrifol.
• Alun Lewis o Rydaman (4.5 mlynedd), Peter Williams o Bontardawe (1.5)
• Steven Morris (6 blynedd), Dane Gosling (4.5) a Ceri Smith (1.5) i gyd o ardal Aberdâr a Hirwaun.
Fe fydd Michael Morrissey o Sir Benfro’n cael ei ddedfrydu eto.
Prif lun: Yr arian a’r cyffuriau wedi eu cipio (Heddlu Dyfed-Powys)