Y Scarlets 49 Aironi 10
Fe gafodd y canolwr Jon Davies hatric o geisiau yn yr ail hanner wrth i’r Sosban guro’r tîm cynta’ o’r Eidal i ymweld â Pharc y Scarlets yng Nghynghrair Magners.
Roedd yna berfformiad llachar hefyd gan yr asgellwr ifanc o ogledd Cymru, George North – fe gafodd yntau un cais a nifer o gyffyrddiadau a rhediadau da.
Roedd hi’n gymharol dynn yn yr hanner cynta’ wrth i’r Scarlets geisio gwneud iawn am golli i Benetton Treviso yn yr Eidal yng ngêm gynghrair gynta’r tymor.
Ar ôl mynd ar y blaen 6-3 trwy giciau cosb, fe lwyddodd y Cymry i sgorio dau gais – trwy North a’r cefnwr Andy Fenby – a mynd i mewn ar yr hanner 18-3 ar y blaen.
Ail hanner da
Ar ôl ychydig funudau o’r ail hanner y cawson nhw afael arni o ddifri, gyda Regan King yn creu lle i Davies a’r blaenwyr yn chwarae’n gry’.
Yn ogystal â’r tri chais i Davies, a gafodd ei ddewis yn chwaraewr gorau’r gêm, roedd yna un i’r eilydd o fewnwr Martin Roberts a ddaeth ymlaen yn lle un arall o’r sêr ifanc, Tavis Knoyle.
Gyda phum trosiad a thair cic gosb gan y maswr Stephen Jones, ac un cais cysur ar y diwedd i Aironi, roedd y fuddugoliaeth o 49-10 yn hen ddigon i roi’r pwynt bonws i’r Scarlets.
Ail yn y Gynghrair
Y bore yma, maen nhw’n ail yn y Gynghrair, un pwynt y tu ôl i Ulster, ond mae llawer o’r timau eraill yn chwarae heddiw a fory.
Llun: Jonathan Davies – tri chais