Fe gafodd rocedi eu tanio wrth i’r pleidleisio ddechrau yn etholiadau Afghanistan.
Roedd un yn y brifddinas, Kabul, a thair yn un o’r dinasoedd mawr eraill, Jalalabad, ond does dim sôn fod neb wedi eu lladd.
Roedd yna adroddiadau hefyd am un bom fechan ger gorsaf bleidleisio a bod y Taliban wedi llwyddo i atal dwy orsaf rhag agor.
Yn ystod y dyddiau diwetha’, mae pedwar o ymgeiswyr wedi eu lladd ac un ymgeisydd a 18 o weithwyr etholiad wedi cael eu herwgipio.
Ofn llygredd
Mae 2,500 o ymgeiswyr yn cynnig am 249 sedd ond does dim pleidiau gwleidyddol, sy’n golygu y bydd yr Arlywydd Karzai’n parhau’n gryf iawn, pwy bynnag sy’n ennill.
Mae yna bryderon mawr am lygredd hefyd gydag adroddiadau eisoes am ddogfennau pleidleisio ffug a bygythiadau yn erbyn ymgeiswyr a phleidleiswyr fel ei gilydd.
Fe fydd y byd yn gwylio i weld faint sy’n pleidleisio a pha mor ddibynadwy yw’r canlyniadau ar ôl cwyno mawr am etholiadau’r arlywydd y llynedd.
Llun: Dyn yn cael papur pleidleisio yn Afghanistan (AP Photo)