Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud wrthyn nhw beidio ag ildio i’w “pryder” am gyfeiriad y Llywodraeth yn Llundain.
Ond fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, hefyd yn wynebu beirniadaeth a chynigion anodd wrth i’r blaid gasglu ar gyfer ei chynhadledd fwya’ erioed yn Lerpwl.
Mae yna rai o fewn y blaid yn feirniadol am faint y toriadau gwario y mae’r Llywodraeth wedi eu cyflwyno ac mae sgôr y blaid yn y polau piniwn wedi syrthio o 22% i gyn ised â 12% ers yr Etholiad Cyffredinol.
Cynigion anodd
Fe fydd yna gynigion yn galw am gael gwared yn llwyr ar daflegrau niwclear Trident – yn groes i farn y Prif Weinidog sydd eisiau arfau tebyg ac yn groes i Nick Clegg sy’n dadlau tros fersiwn rhatach.
Fe fydd yna gynigion hefyd yn erbyn ysgolion rhydd yn Lloegr ac yn galw am drethi newydd ar bobol gefnog ond mae’r arweinwyr eisoes wedi dweud y byddan nhw’n anwybyddu penderfyniadau sy’n mynd yn groes i bolisïau’r Llywodraeth.
Er hynny, mae Nick Clegg wedi dweud wrth bapur yr Independent nad oedd yna unrhyw ddyfodol i’r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn ail ddewis i bobol ar y chwith sydd wedi digio at Lafur.
“Doedd y Democratiaid Rhyddfrydol erioed yn lle ar gyfer pobol asgell chwith a oedd yn anfodlon ar Lafur a dyw hi ddim nawr,” meddai.