Mae chwech o ddynion yn dal i gael eu holi gan yr heddlu yn Llundain ar amheuaeth o gynllwynio i ymosod ar y Pab.
Ond dyw hynny ddim yn effeithio ar drefniadau’r ymweliad ac fe fydd Bened XVI yn mynd i offeren yng Nghadeirlan Westminster ac yn rhan o gyfarfod gweddi mawr yn Hyde Park.
Fe fydd hefyd yn cwrdd â’r Prif Weinidog, David Cameron, a oedd wedi methu â dod i wrando ar y Pab ddoe oherwydd angladd ei dad.
Arestio chwech – y manylion
Mae mwy o wybodaeth bellach am y chwech sydd wedi eu harestio – roedd pump yn paratoi i ddechrau ar shifft yn glanhau strydoedd Llundain bore ddoe ac fe gafodd y chweched ei arestio yng ngogledd Llundain tua 2 y prynhawn.
Y gred yw eu bod rhwng 26 a 50 oed ac yn dod o ogledd Affrica a’u bod yn cael eu holi yn swyddfa heddlu Paddington Green. Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio nifer o safleoedd gwahanol yn y ddinas.
Mae’r chwe dyn yn gweithio i gwmni o’r enw Veolia Environmental Services sy’n cyflogi 650 o bobol ar gadw strydoedd Westminster yn lân.
Neges y Pab
Fe fydd cynrychiolwyr o bob esgobaeth yng Nghymru a Lloegr yn rhan o’r gwasanaeth yng Nghadeirlan Westminster – yr eglwys gadeiriol Gatholig.
Fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yno hefyd ac mae disgwyl i’r Pab roi neges arbennig i Gymru – fydd Bened XVI ddim yn ymweld â Chymru.
Ddoe fe ddywedodd y Pab wrth wleidyddion fod peryg i grefydd gael ei gwthio fwy fwy i’r ymylon a bod gan grefydd rôl gyfreithlon mewn bywyd cyhoeddus.
Methiant moesol oedd yn gyfrifol am yr argyfwng ariannol, meddai.
Llun: Archesgob Caergaint, Rowan Williams, yn cofleidio’r Pab yn ystod eu cyfarfod nhw ddoe (Gwifren PA)