Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi dweud bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn haeddu colli seddi yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf ar ôl “gwneud cam â phobol Cymru”.

Fe ddaw ei eiriau wrth i’r Democratiaid baratoi ar gyfer eu cynhadledd yn Lerpwl dros y penwythnos.

“Tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dathlu eu cytundeb llywodraethol yn y gynhadledd, mae yna bobol yng Nghymru sy’n wynebu colli swyddi a’r toriadau mwyaf ers degawdau,” meddai Jonathan Edwards.

“Cyn yr etholiad fe addawodd y Democratiaid Rhyddfrydol £125m y flwyddyn i Gymru er mwyn mynd i’r afael â than-gyllido. Ond maen nhw wedi torri eu gair a Chymru fydd yn dioddef waethaf yn sgil y toriadau.

“Maen nhw wedi gwneud cymaint o dro-pedol ers cael eu hethol, rwy’n synnu nad yw eu pennau’n troi.”

‘Cefnu ar bolisiau’

Mae Joanathan Edwards yn cyhuddo’r Democratiaid Rhyddfrydol o gefnu ar eu polisïau ar ôl ymuno gyda’r Ceidwadwyr yn y llywodraeth gan gyflwyno trethi ychwanegol a chefnogi system amddiffyn niwclear.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi’r wers berffaith ar sut i beidio â gwneud cytundebau clymblaid. MKaen nhw wedi gwneud cam â’u cefnogwyr a phobol ar draws Cymru.”