Mae Enzo Maccarinelli am brofi ei fod ‘nôl ar ei orau unwaith eto pan fydd yn amddiffyn ei goron Ewropeaidd yn erbyn Alexander Frenkel nos yfory.

Fe fyddai buddugoliaeth yn arwydd bod ei yrfa’n ffynnu unwaith eto yn dilyn cyfnod siomedig lle collodd dair gornest allan o bedwar.

Yn dilyn colledion i Denis Lebedev ac Ola Afolabi roedd ‘na son y byddai’r bocsiwr o Abertawe’n ymddeol.

Ond fe newidiodd y Cymro ei hyfforddwr ac fe aeth ymlaen i gipio coron Ewrop gyda buddugoliaeth yn erbyn Alexander Kotlobay yn St Petersburg.

Os bydd Maccarinelli yn ennill nos yfory, fe fydd yn agor y drws i gyfle arall i gipio coron y byd.

“Mae pobl yn dweud bod Enzo ‘nôl, ond i fod yn onest doeddwn i ddim wedi diflannu,” meddai Enzo Maccarinelli.

“Ond rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus erbyn hyn. Roeddwn i wedi ceisio newid fy steil yn erbyn Dennis Lebedev a newid y math o ymarferion roeddwn yn eu gwneud. Ond roeddwn i’n gwybod nad oedd hynny’n gweithio.”

“Gallwch chi gael pob math o dechnegau ymarfer, ond os nad ydych yn gyfforddus ac yn hyderus yn yr hyn rydych yn ei wneud, fe fydd yn effeithio arnoch yn seicolegol.”