Bydd Live Music Now Cymru yn cynnal noson yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi ar 2 Hydref.
Mae’r elusen gerddoriaeth adnabyddus wrthi’n cynnal taith i ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.
Ymysg yr rheini fydd yn perfformio yng Nghaergybi fydd y delynores Eleanor Turner; Pedwarawd Llinynnol Mavron ynghyd â Christiana Mavron; Katy Rowe; Niamh Ferris a Lucy O’Connor, a’r clarinetydd Peryn Clement Evans.
Live Music Now
Cafodd yr elusen wreiddiol, Live Music Now, ei sefydlu yn 1977 gan Yehudi Menuhin a Ian Stoutzker, ac fe sefydlwyd cangen yng Nghymru yn 1990 gan y delynores Gillian Green.
Y nod yw darparu cerddoriaeth ar gyfer pobol nad ydynt fel arfer yn gallu mynychu cyngherddau confensiynol am resymau iechyd ac ati.
Mae perfformiadau’n digwydd mewn ysbytai, hosbisau, ysgolion, cartrefi’r henoed a chanolfannau ar gyfer pobol gydag anableddau neu anawsterau dysgu.
Mae’r elusen hefyd yn cynorthwyo cerddorion ifanc i ddatblygu gyrfa yn y maes.
‘Ysbrydoliaeth’
Gillian Green yw cyfarwyddwr Live Music Now Cymru, ac mae hi wedi dweud ei bod hi’n “falch iawn” o lwyddiant yr elusen dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.
“Mae gweld gwên ar wynebau plant a phobl yn ystod y perfformiadau’n ysbrydoliaeth,” meddai.
“I mi, dyna yw pwrpas yr holl gynllun. Fel mae ein harwyddair yn dweud, ‘Ysbrydoli Cerddorion, Ysbrydoli Cymunedau.’ A gobeithio mai dyma beth rydyn ni wedi ei wneud yma yng Nghymru dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.”
Mwy o gyngherddau
Yn dilyn y digwyddiad yng Nghanolfan Ucheldre, bydd cyngherddau yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe ar ddydd Mawrth 12 Hydref, a Chanolfan y Riverfront yng Nghasnewydd ar ddydd Gwener 29 Hydref. Maen nhw eisoes wedi ymweld â Rhosllannerchrugog.
Mae ail daith o gyngherddau wedi ei threfnu ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y Colisewm, Aberdâr; Canolfan Celfyddydau Aberystwyth; Theatr Lyric Caerfyrddin a Galeri Caernarfon.
Bydd tocynnau ar werth am £12 (consesiynau ar gael) drwy’r Swyddfa Docynnau neu drwy ffonio 01407 763 361.
Llun: Logo Live Music Now