Mae ugeinfed achos o glefyd y llengfilwyr wedi cael ei gadarnhau ym Mlaenau’r Cymoedd.

Roedd 19 achos eisoes wedi eu cadarnhau yn rhan o’r clwstwr yn ne Cymru, gan gynnwys un o’r tri o bobol a fu farw. Erbyn hyn, y gred yw mai achosion unigol digyswllt oedd y ddwy farwolaeth arall.

Fe gafodd meddygon wybod am gychwyniad yr afiechyd ar 3 Medi, a’r achos diweddaraf yw’r un newydd cyntaf ers 10 Medi.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn aros am ganlyniadau profion ar dri safle diwydiannol yn yr ardal i geisio canfod tarddiad yr afiechyd.

Mae ymchwiliadau’n canolbwyntio ar un clwstwr o saith person yn ardal Rhymni yn ogystal â chlwstwr o bedwar yng Nghwm Cynon.

Mae meddygon teulu wedi cael gwybodaeth am y clefyd a chyngor am ba gamau i’w cymryd os oes gan berson symptomau.