Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn ymchwilio ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gorff dyn marw at Stryd Caerdydd, Casnewydd, ar 11 Medi.

Dywedodd y comisiwn eu bod nhw’n ymchwilio i sut wnaeth Heddlu Gwent ymateb i alwad yn mynegi pryder ynglŷn â dyn ar fainc ger siop Luxton ar y stryd.

Derbyniodd yr heddlu yr alwad yn hwyr yn y nos dydd Sadwrn diwethaf, ac ryw ddwy awr a hanner yn ddiweddarach ar 12 Medi daethpwyd o hyd i Graham Howard, 53, ar y fainc.

Aethpwyd ag ef i Ysbyty Brenhinol Gwent ond roedd o eisoes wedi marw.

“Fe fydd ein hymchwiliad ni’n edrych ar amseru ymateb yr heddlu yn ogystal â pholisiau’r heddlu,” meddai comisiynydd y comisiwn yng Nghymru, Tom Davies.

“Fe fyddai o fudd i’r ymchwiliad pe bai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â Graham Howard a’i symudiadau ar 11 Medi ac oriau man y bore ar 12 Medi yn cysylltu gyda’r comisiwn.

“Rydym ni eisiau siarad gyda dau lanc ifanc ar feiciau a aeth i siop Luxton yn hwyr ar 11 Medi er mwyn mynegi pryder ynglŷn â’r dyn ar y fainc tu allan.”

Roedd Graham Howard yn dod o North Tawton, Dyfnaint, yn wreiddiol. Cafodd ei weld ger Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac yna ar y fainc ger siop Luxton.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 0800 096-9076 neu e-bostio howard.witnessappeal@ipcc.gsi.gov.uk .