Mae Dafydd Iwan, wedi codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol pleidiau gwleidyddol Cymru ar ddiwedd ei gyfnod yn Llywydd Plaid Cymru.
Dros y blynyddoedd nesa, mae’n rhagweld y bydd pleidiau Cymru yn cael eu hail drefnu ac, yn fwy dadleuol, nad oes rheidrwydd y bydd ei blaid yn para lawer hwy.
Wrth roi’r gorau i’r swydd ar ôl saith mlynedd, dywed bod gan ei olynydd Jill Evans, her fawr i gynnal hunaniaeth y Blaid o fewn gwleidyddiaeth Cymru wrth i bleidiau eraill symud tuag at bolisïau cenedlaetholgar.
“Y cwestiwn diddorol sy’n codi yw bod y pleidiau eraill yn Cymreigio, yn dod yn nes at ein tir ni. Mae hyn yn creu problem i ni ond mae’n broblem neis i gael.” meddai Dafydd Iwan yng nghynhadledd hydref ei blaid yn Aberystwyth.
“Efallai beth fyddwn ni’n dechrau gweld yw rhyw fath o ail drefnu pleidiol. O edrych yn ôl, dw i’n meddwl ar ôl y refferendwm yn 1997, yn ddelfrydol efallai dyna beth ddylai fod wedi digwydd. Bod elfennau o’r blaid Lafur wedi ymuno gyda Phlaid Cymru i ffurfio plaid chwith o’r canol newydd genedlaethol.
“Wrth gwrs dyw pethe ddim yn digwydd fel’na. Ond yn y blynyddoedd nesaf yma, rydym ni’n mynd i weld a fydd yna ryw ad-drefnu. Yn naturiol, ar ôl i ni gael senedd fe fydd y daith ymlaen wedyn yn ymateb i newid gyda’n gilydd.”
Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 16 Medi