Mae pennaeth y lluoedd arfog wedi dweud y dylai’r Llywodraeth gael gwared ag arfau ataliol niwclear Prydain os ydyn nhw’n mynd i’w hisraddio nhw beth bynnag.

Dywedodd Syr Jock Stirrup, a fydd yn ymddeol fis nesaf, na fyddai unrhyw olynydd llai pwerus i Trident yn “gredadwy”.

Daw ei sylwadau wrth i’r Llywodraeth awgrymu na fyddan nhw’n penderfynu a ydyn nhw’n mynd i adnewyddu Trident tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol yn 2015.

Wrth roi tystiolaeth o flaen Comisiwn Gweinyddiaeth Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin heddiw, dywedodd Syr Jock Stirrup y dylai gwleidyddion benderfynu a oedd gan Brydain arf ataliol niwclear.

“Ond mae’n rhaid cael arf ataliol credadwy,” meddai. “Os nad ydych chi’n cael hynny waeth i chi gael dim byd.

“Dyw gwario arian ar arf ataliol sydd ddim yn gredadwy ddim yn gwneud unrhyw synnwyr strategol i fi.”

Dywedodd mai’r unig arf ataliol “credadwy” yn ei olwg ef oedd “arf ataliol parhaus mewn llong danfor”, sef arf tebyg i Trident.